What is Hope Again?

Hope Again is the youth website of Cruse Bereavement Care. It is a safe place where you can learn from other young people, how to cope with grief, and feel less alone.

Here you will find information about our services, a listening ear from other young people and advice for any young person dealing with the loss of a loved one.

Hope Again provides somewhere to turn to when someone dies.

Get involved and join the conversation here

Beth yw Hope Again?

Hope Again yw gwefan Gofal mewn Galar Cruse ar gyfer pobl ifanc. Mae'n le diogel lle gallwch ddysgu gan bobl ifanc eraill sut i ymdopi â galar, a theimlo'n llai unig.

Yma fe gewch wybodaeth am ein gwasanaethau, clust i wrando gan bobl ifanc eraill a chyngor i unrhyw berson ifanc sy'n delio â cholli rhywun annwyl.

Mae Hope Again yn cynnig rhywle i droi ato pan fydd rhywun yn marw.

Cymerwch ran ac ymunwch â'r sgwrs yma

Short Film: Hope In Grief

This short film highlights the different emotions explored through a number of young people's personal journeys of grief and loss. More importantly, the young people describe how they now continue their loved ones legacy after receiving much needed support from Cruse/Hope Again. This film aims to provide hope in grief to anyone who has experienced a bereavement.

Ffilm Fer: Gobaith mewn Galar 

Mae'r ffilm fer hon yn tynnu sylw at y gwahanol emosiynau sy'n gysylltiedig â phrofiadau personol pobl ifanc o alar a cholled. Yn bwysicach fyth, mae'r bobl ifanc yn disgrifio sut maen nhw nawr yn parhau ag etifeddiaeth eu hanwyliaid ar ôl cael cefnogaeth fawr ei hangen gan Cruse/Hope Again. Bwriad y ffilm yw rhoi gobaith mewn galar i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth.